Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA144

 

Teitl: Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli rhai darpariaethau yn Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 (“y prif Reoliadau”) sy’n ymwneud â dynodi parthau perygl nitradau. Mae’r prif Reoliadau yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Mae’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ymwneud â’r adolygiad gan Weinidogion Cymru o ddynodi parthau perygl nitradau yn 2009 gan y prif Reoliadau. Gwneir darpariaeth gan y Rheoliadau hyn i Asiantaeth yr Amgylchedd wneud argymhellion i Weinidogion Cymru i gyhoeddi a hysbysu eu penderfyniadau yn dilyn yr argymhellion hynny, ac i apeliadau gael eu gwneud i Weinidogion Cymru a’u penderfynu gan unigolyn a benodir ganddynt.

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd:-

 

Mae’r Rheoliadau hyn (yn rheoliad 9(4)) yn dangos newid sylweddol yn arddull drafftio Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion Cymru. Pan sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, nodwyd is-baragraffau yn wreiddiol ag (a), (b), (c), (d), (e), ac ati, yn nhestunau Offerynnau Statudol yn y ddwy iaith. Erbyn 2000, cawsant eu nodi ag (a), (b), (c), (ch), (d), ac ati yn y testun Cymraeg gan yr ystyriwyd bod defnyddio’r wyddor Gymraeg yn adlewyrchu statws cyfartal y ddwy iaith yn fwy ffyddlon. Mae’r arfer hwnnw wedi parhau tan nawr. Mae’n golygu, er enghraifft, bod is-baragraff (ch) yn y Gymraeg yn cyfateb i is-baragraff (d) yn y testun Saesneg, tra bod paragraff (d) yn y testun Cymraeg yn cyfateb i (e) yn y Saesneg.

 

Pan gafodd y Cynulliad y gallu i wneud deddfwriaeth sylfaenol drwy fesurau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, penderfynwyd dychwelyd at yr arfer gwreiddiol o ddefnyddio’r wyddor Saesneg ar gyfer yr is-baragraffau yn nhestunau’r ddwy iaith. Y prif eglurhad oedd y byddai Aelodau yn rheolaidd yn cynnig a thrafod gwelliannau i Fesurau drafft, a byddai’n llai dryslyd i gyfeirio at baragraffau (y drydedd lefel isrannu mewn deddfwriaeth sylfaenol) sydd wedi’u labelu yn yr un ffordd yn nhestunau’r ddwy iaith.

 

Parhawyd â’r arfer hwnnw gyda Biliau a gyflwynwyd yn ystod y Cynulliad presennol.

 

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi penderfynu ymestyn yr arfer hwnnw i Offerynnau Statudol, er na ellir eu diwygio yn yr un modd â Biliau. Er bod hyn yn sicrhau dull cyson ym mhob deddfwriaeth sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, mae’n anghyson â’r arfer gydag Offerynnau Statudol dros y deuddeg mlynedd diwethaf.

 

Tynnwyd sylw’r Cynulliad i’r mater hwn o dan Reol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwys gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mai 2012

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012

Yn unol ag adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau y defnyddir yr wyddor Saesneg i nodi is-baragraffau yn nhestun Cymraeg offerynnau statudol o hyn ymlaen. Y rheswm dros ddefnyddio’r wyddor Saesneg mewn testunau deddfwriaethol Cymraeg yw ein bod yn meddwl ei bod yn llai tebygol y bydd dryswch yn codi mewn achos llys ac yn nhrafodion y Cynulliad, yn enwedig pan fyddir yn cyfeirio at y ddau destun drwy gyfrwng cyfieithu ar y pryd.  Y bwriad y tu ôl i’r newid yw hybu defnydd o destunau deddfwriaethol Cymraeg drwy symud rhwystr i ddefnydd effeithiol ohonynt.

Fel y cydnabuwyd yn adroddiad y Pwyllgor, mae’r newid hwn yn sicrhau dull cyson o drin y ffordd y nodir paragraffau ac is-baragraffau ym mhob ddeddfwriaeth ddwyieithog a ddaw gerbron y Cynulliad, gan fod yr arfer a benderfynwyd gan y Llywydd yn ystod y Trydydd Cynulliad yn parhau o ran Biliau.  Y bwriad y tu ôl i’r newid yw hybu defnydd o destunau deddfwriaethol Cymraeg drwy symud rhwystr – er yn rhwystr bach - i ddefnydd effeithiol ohonynt.